Camlas Trefaldwyn
Camlas Trefaldwyn
Er mai Camlas Trefaldwyn yw'r enw ar y gamlas heddiw, os trowch yn ôl i'r gorffennol mae'r gamlas yn gyfuniad o Gamlas Trefaldwyn a Chamlas Ellesmere. Mae'r gamlas ryw 34 milltir o hyd ac mae'n rhedeg o'r cymer gyda Chamlas Llangollen yn lociau Frankton i'r Drenewydd.

Loc Carreghofa ger Llanymynech
Dechreuwyd adeiladu'r gamlas ym 1790 ac aeth y gwaith yn ei flaen hyd nes ei chwblhau ym 1821. Y prif bwrpas oedd gwasanaethu'r gymuned amaethyddol. Ar hyd rhannau o'r gamlas mae dyddodion mawr o Galchfaen ac roedd y brif ffynhonnell yn Llanymynech. Mae'r ardal Treftadaeth sydd yn cynnwys yr Odyn Galch adferedig yn Llanymynech (un o ddim ond tair yn y wlad) yn tystio i'r cyfnod hwnnw. Ar ei anterth roedd rhyw 90+ odyn galch ar hyd ei llwybr. Yn ogystal â chynnig coridor ar gyfer cludo Calch roedd nifer o felinau dŵr a ddefnyddiai'r dŵr a redai i'r gamlas. Yn ystod blynyddoedd cynnar y 19g dechreuodd rheilffyrdd gael effaith ar system cludo camlesi'r wlad a dechreuodd seilwaith y camlesi ddioddef. Doedd Camlas Trefaldwyn ddim yn eithriad yn hyn o beth yn wyneb y dull gwahanol hwn o deithio a phan ddechreuwyd esgeuluso'r gwaith cynnal ar rannau o'r gamlas (bu toriad mawr ym 1936) daeth yn economaidd anghynaliadwy ac fe'i gadawyd yn ystod yr 1940au. I bob pwrpas trôdd y gamlas yn adfail. Fodd bynnag, rhyw 20 mlynedd yn ddiweddarach gwelwyd dechrau symudiad i achub ac adfer camlas Trefaldwyn gyda'r hyn a alwyd wedyn y 'Cloddio Mawr' yn y Trallwng. Ni ellir mynd mewn coch ar hyd y gamlas gyfan ac mewn gwirionedd mae mewn dwy ran. Mae rhan adferedig a mordwyol o Lociau Frankton i Maesbury. Yna ceir rhan oddi yno i ardal Llanymynech y mae'r rhan fwyaf ohoni'n sych. Ceir rhan fer ger Llanymynech sy'n fordwyol. Yn bellach i gyfeiriad y Trallwng, er bod yno ddŵr nid yw'r gamlas yn gyfan gwbl fordwyol oherwydd bod nifer o bontydd wedi syrthio. Mae ardal y Trallwng yn rhannol fordwyol gyda rhyw 11 milltir o ddŵr. Mae hyn yn dal i adael nifer o rwystrau os yw'r gamlas i gael ei hadfer cyn belled â'r Drenewydd.
Er gwaetha'r rhwystrau hyn mae yna nifer gynyddol o sefydliadau sydd â'r nod o adfer y gamlas i'w chyflwr gwreiddiol.
Dim ond rhan o'r stori yw'r gwaith adfer oblegid byddai'n dod â llawer o fanteision economaidd i'r ardal a byddai ar flaen y gad o ran adfywio gwledig yn yr ardal.