Rhagarweiniad

Canolfan Ymwelwyr Glanfa Llanymynech 

Cyfleuster a redir gan y gymuned yw hwn ac mae'n eich croesawu i “blwyf rhyngwladol”  Llanymynech. Yn y Ganolfan Ymwelwyr rydym yn darparu nifer o atyniadau - arddangosiadau ac arddangosfeydd am y gamlas, crefftau lleol a lluniaeth ysgafn a theithiau ar y gamlas ar y 'George Watson Buck'. Cynhelir nifer o 'Ddigwyddiadau Arbennig' yn ystod y flwyddyn yn y Ganolfan. Mae manylion ar gael am yr Ardal Treftadaeth, Teithiau Cerdded a mannau lleol, diddorol. Gellir trefnu teithiau tywysedig. Mae lle picnic ac mae amrywiaeth o lefydd i fwyta yn y pentref. Mae'r George Watson Buck ar gael i'w hurio'n breifat hefyd.

Visitor Centre and the George Watson Buck

 

Diddordeb Hanesyddol

Roedd Glanfa Llanymynech yn fan drawslwytho bwysig ar gyfer y glo a ddefnyddid yn y diwydiant calch lleol, ffyniannus ac mewn cartrefi, ac ar gyfer allforio calchfaen a chynhyrchion fferm.  O'i chwmpas mae'r Ardal Treftadaeth a redir bellach gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Amwythig lle medrwch gerdded y llwybrau troed a darganfod olion tramffyrdd goleddfol ac odynau, yn enwedig yr odyn galch Hoffmann drawiadol ac anarferol – un o'r dim ond tair sydd ar ôl yn y wlad a'r un a gadwyd orau.

Hoffman Kiln

Mae gan Fynydd Llanymynech, lle y cloddiwyd y calchfaen, hanes cofnodedig sy'n ymestyn yn ôl dros 2000 o flynyddoedd. Mae'r fryngaer o'r Oes Haearn yn un o'r safleoedd posibl ar gyfer brwydr olaf Caradog yn erbyn y Rhufeiniaid. Roedd yr Ogof ar y bryn yn fwynglawdd copr Rhufeinig ac mae'n bosibl ei fod yn dyddio'n ôl i'r Oes Efydd. Cafwyd tystiolaeth o smeltio copr o'r Oes Efydd yn y pentref. Mae Clawdd Offa'n rhedeg drwy'r pentref a'r tu ôl i'r mynydd.

 

Bywyd Gwyllt

Mae cyfoeth o fywyd gwyllt ar y safle. Mae llwybrau natur diddorol yn arwain drwy'r prysgdir o gwmpas y safleoedd diwydiannol a hen goedwig Llwyn Coch. Mae'n werth gweld blodau'r gwanwyn yn y goedwig a'r dolydd yn yr haf. Ar ben yr incleiniau rydych yn mynd i'r hen chwareli sydd bellach yn warchodfa yng ngofal Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt lle ceir golygfeydd eang dros gefn gwlad amgylchynol Cymru a Lloegr.  Dyma un o'r mannau cyntaf ym Mhrydain i'w bennu'n safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig. Yn gynnar yn yr haf mae sawl math o degeirian i'w weld yma.

 

Woodland


 

Y Cwch Camlas “George Watson Buck”

Mae'r ‘George Watson Buck’ yn cludo teithwyr ar deithiau byr pan fo'r Ganolfan ar agor a thrwy drefniant ar adegau eraill. Pan gyrhaeddodd yn 2005 ef oedd y cwch cyntaf a fu ar gamlas Llanymynech ers dros drigain mlynedd ar wahân i gychod gwaith cynnal a chadw. Rhoddwyd y cwch i'r gymuned leol ac fe'i cynhelir gan yr Ymddiriedolaeth Duchess Countess.

George Watson Buck