Rhagarweiniad

Y Cwch Post 'Duchess Countess'

 

DC Model

                                    Model bychan o'r 'Duchess Countess'


Nodau ac Amcanion

Dyma brif amcanion y prosiect:

  • ail-greu cwch post camlas "Duchess Countess" fel atgynhyrchiad gwirioneddol
  • darparu enghraifft o gwch camlas cludo teithwyr, cyflym y cyfnod
  • cynnig cyfleuster addysgol a rhyngwyneb gyda hanes
  • darparu hyfforddiant sgiliau a chyflogaeth i bobl leol drwy adeiladu a gweithredu ar gamlas Trefaldwyn
  • darparu manteision economaidd i'r ardal a'i phobl

Bydd yr Ymddiriedolaeth:

  • yn codi arian, rheoli a threfnu'r project
  • yn cydlynu cefnogaeth ac arbenigedd cenedlaethol a lleol
  • yn sicrhau bod barn pobl leol yn cael ei chynrychioli a bydd yn cysylltu gyda sefydliadau a chyrff lleol

Y Cwch Post 'Duchess Countess' i gael ei aileni

Er na fu'r cwch post camlas 'Duchess Countess' erioed yn gweithio ar Gamlas Trefaldwyn, treuliodd ei flynyddoedd olaf o gwmpas y gamlas hon a chamlas Llangollen, lle enillodd y clod amheus o fod y cwch olaf i ddringo drwy'r Frankton Flight. Hyd y gwyddys, y 'Duchess Countess' yw'r unig gwch post camlas o'r 19eg ganrif a gofnodwyd drwy luniadau manwl gan bensaer morol. Adeiladwyd holl longau'r cyfnod hwnnw gan grefftwyr medrus a ddefnyddiai eu gwybodaeth a'u blynyddoedd o brofiad ond heb gynlluniau manwl.